Chwilio am Swyddi Gwag
Mae manylion ein swyddi gwag presennol i’w gweld yma:
Hygyrchedd
Mae microwefan recriwtio Gyrfa Cymru wedi'i hasesu ac mae'n methu yn erbyn nifer o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2, yn benodol meini prawf Lefel A a lefel AA. Am fanylion llawn sut mae'n methu, cysylltwch â ad@gyrfacymru.llyw.cymru.
Os na allwch ddefnyddio'r system ac rydych am wneud cais am swydd wag a hysbysebir, anfonwch e-bost i: ad@gyrfacymru.llyw.cymru i gael ffordd amgen o wneud cais.
Rydym wedi hysbysu'r darparwr trydydd parti a ddatblygodd y ficrowefan recriwtio ac rydym yn aros am ymateb i ymdrin â'r materion a nodwyd.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth cywir i'w wneud.
Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel iawn, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydym ni'n ei wneud dros bobl Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gael gweithlu sydd, ar bob gradd swydd, yn cynrychioli'r dinasyddion rydym ni'n eu gwasanaethu.
Yr Iaith Gymraeg
Er na yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer yr holl swyddi hyn, rydym yn cydnabod pwysigrwydd datblygu ein gweithlu dwyieithog, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr a all weithio yn Gymraeg a Saesneg.
Rhydd Rhag Gwahaniaethu
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
Mae Gyrfa Cymru wedi’i achredu i ddefnyddio’r symbol Hyderus o ran Anabledd fel tystiolaeth o’n hymrwymiad i gyfle cyfartal i bobl ag anableddau. O ganlyniad, bydd pob ymgeisydd ag anabledd sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r cam nesaf, yn hytrach na chael ei asesu drwy’r broses rhestr fer.
Pam dewis Gyrfa Cymru?
Ymysg y buddion deniadol mae oriau hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata i weithwyr rhan amser), cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn gysylltiedig ag iechyd.
Cliciwch i ddysgu mwy