Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant


Ein Hymrwymiad i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ystod y Broses Recriwtio
Rydym yn rhoi hysbysebion swyddi mewn cyfryngau hygyrch fel byrddau swyddi ar-lein a chyhoeddiadau arbenigol. Rydym hefyd yn defnyddio asiantaethau recriwtio. Rydym yn anfon hysbysebion swyddi i Citizens Compact ac rydym yn defnyddio cyhoeddiadau Cymraeg. Gwnawn hyn er mwyn cyrraedd cymunedau amrywiol ac anoddach eu cyrraedd yn y ffordd orau posibl. Mae hysbysebion swyddi hefyd yn cael eu rhoi ar Facebook a Twitter.
Mae manylion personol pob ffurflen gais yn cael eu tynnu cyn iddynt gael eu hanfon at y panel llunio rhestr fer. Mae hyn yn golygu na ellir gweld y biodata wrth lunio’r rhestr fer. Nid yw'r panel yn gweld eich enw, cyfeiriad nac unrhyw wybodaeth bersonol arall.
Mae pob panel wedi'i hyfforddi yn y ffordd i drin rhagfarn ddiarwybod.
Cedwir y Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ar wahân i'ch ffurflen gais. Fe'i defnyddir ar gyfer monitro yn unig.
Mae Gyrfa Cymru yn falch o ddefnyddio'r symbol Hyderus o ran Anabledd. Bydd pob ymgeisydd ag anabledd sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn hepgor y broses lunio rhestr fer. Os bodlonir y meini prawf hanfodol, byddant yn symud ymlaen i'r cam nesaf.
Gofynnir i bob ymgeisydd swydd a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnynt. Gallai hyn fod ar gyfer canolfannau asesu, profion neu gyfweliadau. Gall enghreifftiau gynnwys amser ychwanegol neu ofynion mynediad.
Rydym yn anfon y cwestiynau cyfweliad at ymgeiswyr 24 awr cyn y cyfweliad. Mae hyn er mwyn cefnogi niwroamrywiaeth a llesiant ymgeiswyr.
Mae cymysgedd rhywiau ar bob panel, lle bo modd.
Gallwch wneud cais am swyddi yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gall ymgeiswyr am swyddi ddewis cael cyfweliad neu ganolfan asesu yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae pob teitl swydd, gan gynnwys y rheini yn y Gymraeg, wedi'u gwirio i sicrhau eu bod yn niwtral o ran rhywedd.
Mae'r holl ddisgrifiadau swydd yn hygyrch.
Pan fyddwch chi'n dechrau gweithio, rydyn ni'n gofyn beth yw'ch hoff ragenwau personol. Bydd y rhain yn cael eu rhoi ar eich llofnod e-bost, os ydych yn dymuno hynny. Mae gennym fathodynnau rhagenw ar gyfer y rhai a hoffai wisgo un.
Cliciwch i weld Gwybodaeth am Amrywiaeth a Chynhwysiant ar ein gwefan