Croeso i Wefan Recriwtio Gyrfa Cymru
Pwy ydym ni?
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyflawni cylch gwaith a bennir gan Weinidogion Cymru ac yn darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfa annibynnol, diduedd, dwyieithog ac i bob oed yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gweld pob person ifanc yn symud yn esmwyth ac yn llwyddiannus i gyflogaeth ac i oedolion gael eu hysbrydoli i reoli eu gyrfaoedd.
Lle mae dod o hyd i ni
Cliciwch am restr o’n Canolfannau, a restrir yn ôl Awdurdod Lleol.
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.
-
- Gweler manylion y swyddi gwag ar gyfer gwybodaeth am gyflog.
- Aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
-
- 31 diwrnod o absenoldeb blynyddol (pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser)
- 8 Gŵyl y Banc
- 5 Diwrnod Cau’r Cwmni enwebedig (Noswyl Nadolig, rhwng 27 a 31 Rhagfyr a’r dydd Mawrth ar ôl Llun y Pasg)
- Trefniadau absenoldeb eraill, gan gynnwys: Gwell Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth a Mabwysiadu, Absenoldeb Rhiant (di-dâl), Dibynyddion (di-dâl), Tosturiol, Absenoldeb mewn Argyfwng, polisi Seibiant Gyrfa, Cynllun Tâl Salwch Cwmni, Diwrnod Gwirfoddoli
-
- 37 awr yr wythnos ar gyfer gweithwyr llawn amser
- Polisi amser hyblyg
- Yn treialu gweithio hybrid ar hyn o bryd
- Cynnigir sawl math o batrymau gweithio'n rhan amser
-
- Cynllun Arian yn ôl Gofal Iechyd: arian yn ôl ar gyfer costau gofal iechyd o ddydd i ddydd fel gofal deintyddol, optegol, ymgynghoriadau, ffisiotherapi a therapïau cyflenwol.
- Cynllun Seiclo i’r Gwaith
- Cynllun Prydlesu Ceir
- Cynllun Cynnal a Chadw Ceir
- Cynllun Benthyciadau
- Vectis Card – arian i ffwrdd mewn siopau a bwytai’r stryd fawr
- Awr Lesiant ar gyfer pob gweithiwr, lle gellir defnyddio hyd at awr bob wythnos yn gwneud gweithgarwch llesiant.
-
- Prosiect Iechyd a Lles
- Hyrwyddwyr Iechyd a Lles ym mhob swyddfa
- Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ym mhob swyddfa
- Gwasanaeth Cwnsela 24/7: am ddim a chyfrinachol
- Cymorth Iechyd Galwedigaethol
- Cydnabyddiaeth Unsain
- Hyfforddiant/Datblygu Gyrfa
-
- BAME
- LGBTQ+
- Cwtch: Grŵp Cymorth Iechyd Meddwl
- Grwpiau Cymorth/Diddordeb Arbennig ar Yammer fel Menopos, Garddio, Anifeiliaid Anwes, Rhianta a mwy.
-
- Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
- Amser i Newid
- Cytundeb Swyddi Cymunedol’ Dinasyddion y Bae (Bay Citizens ‘Community Jobs Compact’)
- Safon Iechyd Corfforaethol – yn gweithio tuag at y wobr Aur ar hyn o bryd
- Mae Gyrfa Cymru yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig
- Mae Gyrfa Cymru yn gweithredu i fod yn gyflogwr Oedran Cynhwysol drwy’r rhaglen Pobl Hŷn yn y gwaith.
- Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
Eisoes yn gweithio i Careers Wales?
Beth am recriwtio gyda'n gilydd a chanfod eich cydweithiwr newydd.