Cynghorydd Gyrfa/Cynghorydd Gyrfa Dan Hyfforddiant (Dyddiad Cau 21/10/25)
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen Cymru’n Gweithio.
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.
Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru.
Cynghorydd Gyrfa/Dan Hyfforddiant – cyflog cystadleuol - telerau ac amodau rhagorol – mae gennym swydd wag rhan amser (3 diwrnod/ 22.2 awr) ym Mhowys.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon gan y bydd deiliad y swydd yn gweithio o fewn lleoliadau addysg cyfrwng Cymraeg.
- Allwch chi ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?
- Ydych chi eisiau cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac economi Cymru yn y dyfodol?
- Ydych chi eisiau gweithio i sefydliad cenedlaethol proffesiynol, modern ac arloesol a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl?
Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth cyfarwyddyd i bobl o bob oed sy'n cefnogi pobl ifanc mewn addysg a chwsmeriaid yn y farchnad lafur. Ni yw'r unig sefydliad cenedlaethol yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd diduedd am yrfaoedd. Mae gan ein cynghorwyr angerdd tuag at helpu pobl i gyflawni eu potensial.
Rydym yn recriwtio Cynghorydd Gyrfa cymwys neu dan Hyfforddiant a all weithio gyda phobl ifanc o fewn ein Tîm Gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc.
Graddfa cyflog Cynghorydd Gyrfa (am swydd rhan amser/3 diwrnod yr wythnos) yw £18,657 - £21,588, cyflog i gychwyn ar £18,657 a chyflog Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant (am swydd rhan amser/3 diwrnod yr wythnos) yw £17,923.
Mae ein Cynghorwyr Gyrfa sy'n gweithio ym myd addysg yn allweddol o ran sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu paratoi ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu bywydau a'u bod yn ymwybodol o'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn marchnad lafur sy'n newid yn barhaus. Maent yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, y rhai sy'n cael eu haddysgu heblaw mewn ysgolion a cholegau AB.
Mae cynghorwyr gyrfa yn defnyddio ystod o offer a sgiliau i gefnogi'r gwaith y maent yn ei wneud gyda phobl ifanc. Mae hyn yn amrywio o gefnogaeth un i un, cyflwyno sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyflwyno gwybodaeth gan ddefnyddio ystod o dechnoleg ddigidol.
Os hoffech gael yr her o weithio gyda phobl ifanc o bob gallu a chefndir, os ydych yn gallu cymell ac ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu nodau, os gallwch greu perthynas effeithiol gydag athrawon, rhieni a darparwyr dysgu eraill, yna hoffem glywed gennych.
The ability to speak Welsh is essential for this vacancy as the postholder will be working within Welsh medium education settings.
Gwybodaeth Cyffredinol:
Mae'n ofynnol i chi deithio yng Nghymru ac yn achlysurol yn y DU er mwyn cyflawni eich dyletswyddau a/neu fynychu digwyddiadau dysgu a datblygu. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod gennych drefniadau trafnidiaeth digonol i'ch galluogi i gyflawni eich dyletswyddau a/neu fynychu digwyddiadau dysgu a datblygu.
Rhaid i Gynghoryddion Gyrfa cymwysedig feddu ar gymhwyster Diploma mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa Lefel 6 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCC neu cymhwyser cyfatebol) a bod yn gymwys i ymuno â Chofrestr Ymarferwyr y Sefydliad Datblygu Gyrfa.
Os nad ydych yn meddu ar y cymhwyster FfCC, fe wnawn ddarparu’r hyfforddiant a’r gefnogaeth angenrheidiol i’ch cynorthwyo i gael y cymhwyster gwerthfawr yma.
Dylai Cynghoryddion Gyrfa dan Hyfforddiant fod wedi'u haddysgu i lefel gradd neu safon gyfatebol a byddant yn cwblhau Diploma Lefel 6 mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa. Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol ar lefel gradd, a fydd yn cael ei gwblhau yn y gweithle, ond bydd angen dysgu'n annibynnol yn amser y dysgwr ei hun.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael Datgeliad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd:
Cynghorydd Gyrfa Swydd Ddisgrifiadau
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 21/10/2025. Bydd y broses ddethol ar ffurf asesiad mewn canolfan asesu a chyfweliad. Bwriedir cynnal y ganolfan asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd y Ganolfan Asesu a’r Cyfweliad yn ddigidol ar Teams ac fe’i cynhelir ar y 04/11/25 (canolfan asesu) a 07/11/25 (cyfweliadau).
Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
- Adran
- Cymru'n Gweithio / Gwasanaethau i Bobl Ifanc
- Rôl
- Cynghorydd Gyrfa / Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant
- Lleoliadau
- Aberhonddu, Y Drenewydd
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.
Eisoes yn gweithio i Careers Wales?
Beth am recriwtio gyda'n gilydd a chanfod eich cydweithiwr newydd.