Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 08/11/26)
Rolau amser llawn (37 awr) ar gael yn Ne Ddwyrain a Gogledd Ddwyrain Cymru - Cyflog Cynghorydd Gyrfa: £32,262 – £37,330 (gan ddechrau ar £32,262). - Cyflog Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant: £30,993.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaethau hanfodol i bob oedran o ran cyfarwyddyd gyrfaoedd a darparu anogaeth. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn annibynnol a diduedd ac ar gael ledled Cymru, gan gynnwys drwy raglen Cymru’n Gweithio.
Swyddi Gwag - Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant
Rolau amser llawn (37 awr) ar gael yn Ne Ddwyrain a Gogledd Ddwyrain Cymru
Cyflog Cynghorydd Gyrfa: £32,262 – £37,330 (gan ddechrau ar £32,262).
Cyflog Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant: £30,993.
Sgiliau Cymraeg: Hanfodol – lefel sgiliau Canolradd neu Uwch (gweler isod).
Ydych chi'n rhywun sy'n gallu...
Ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?
Cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac at lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol?
Gweithio o fewn sefydliad cenedlaethol modern, arloesol lle gallwch chi wirioneddol wneud gwahaniaeth?
Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd i bawb. Mae ein tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc yn cefnogi dysgwyr ym maes addysg, tra bod ein tîm Cymru’n Gweithio yn gweithio gyda chwsmeriaid yn y farchnad lafur. Gyrfa Cymru yw’r unig sefydliad cenedlaethol sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yng Nghymru, ac mae ein cynghorwyr yn angerddol am helpu unigolion i wireddu eu potensial.
Ynglŷn â'r Rolau
Casnewydd, Tîm Cymru’n Gweithio – Angen Sgiliau Cymraeg Canolradd
Byddwch yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion i fentro i’r farchnad lafur neu i ail-ymuno â'r farchnad lafur trwy asesu, rhoi cyfarwyddyd a darparu cymorth wedi'i deilwra. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion sy'n ddi-waith (tymor byr neu hirdymor), yn economaidd anweithgar, yn profi rhwystrau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu anabledd, neu sy'n ceisio newid gyrfa. Ewch i'r farchnad lafur trwy asesu, rhoi cyfarwyddyd a chymorth wedi'i deilwra.
Byddwch hefyd yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol fel darparwyr hyfforddiant, y Ganolfan Byd Gwaith, carchardai, timau troseddau ieuenctid, cyflogwyr a sefydliadau eraill i helpu cwsmeriaid i symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth gynaliadwy.
Mae cynghorwyr yn defnyddio amrywiaeth o offer a dulliau, gan gynnwys cymorth un-i-un, sesiynau cyflogadwyedd grŵp a chyflwyniadau gan ddefnyddio technolegau digidol.
Yn benodol, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â phrofiad mewn:
Sefydliadau addysg neu hyfforddiant
Cymorth iechyd, gofal cymdeithasol neu anabledd
Cefnogi oedolion sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur
Gweithio gyda chymunedau ethnig leiafrifol amrywiol, ceiswyr lloches neu ffoaduriaid
Gweithio mewn lleoliad carchar.
Swyddi ar gael yn ardaloedd Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen neu Caerffili a Wrecsam neu Sir y Fflint; Tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc – Angen sgiliau Cymraeg Uwch
Mae'r rolau hyn yn canolbwyntio ar baratoi pobl ifanc ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu haddysg a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio ar draws ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, colegau AB a gyda'r rhai sydd wedi'u haddysgu y tu allan i leoliadau prif ffrwd. Fel gyda'n holl rolau cynghorydd, byddwch yn defnyddio ystod o offer i ddarparu cymorth un-i-un, sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyflwyniadau digidol.
Gwybodaeth Gyffredinol
Rhaid i gynghorwyr/rhai o dan hyfforddiant fod â thrafnidiaeth addas i gyflawni eu dyletswyddau a mynychu digwyddiadau dysgu a datblygu yng Nghymru ac, o bryd i’w gilydd, y DU.
Rhaid i ymgeiswyr Cynghorydd Gyrfaoedd feddu ar Ddiploma Lefel 6 FfCCh mewn Cyfarwyddyd Gyrfaoedd a Datblygiad (neu gyfwerth) a bod yn gymwys ar gyfer Cofrestr Ymarferwyr CDI.
Rhaid i Gynghorwyr Gyrfaoedd dan Hyfforddiant feddu ar radd (neu gyfwerth) a byddant yn cwblhau'r Diploma Lefel 6 fel rhan o'r rôl, gyda rhywfaint o astudio annibynnol yn angenrheidiol.
Mae angen gwiriad DBS manwl.
Disgrifiadau Lefelau Sgiliau Iaith Gymraeg
Canolradd: Gallwch ddeall prif bwyntiau sgyrsiau ar bynciau cyfarwydd bob dydd a phynciau sy’n ymwneud â gwaith, a chyfathrebu’n hyderus â siaradwyr rhugl. Gallwch ddisgrifio profiadau, uchelgeisiau a chynlluniau, egluro eich barn, deall gwybodaeth ysgrifenedig syml, ac ysgrifennu negeseuon e-bost neu lythyrau clir at amrywiaeth o ddibenion.
Hyfedr: Gallwch ddeall yr hyn yr ydych yn ei glywed neu’n ei ddarllen yn rhugl, cyfathrebu’n rhugl ar bynciau cymleth, ac arwain neu gyfrannu at drafodaethau. Gallwch grynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau ac addasu eich arddull ar gyfer gwahanol gynilleidfaoedd a lleoliadau. Rydych yn medru gweithio ar lefel broffesiynol, gan gyfathrbu trwy amrywiol ddulliau yn y Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd: Cynghorydd Gyrfa Swydd Ddisgrifiadau
Dyddiad Cau: 08/11/2026 (hanner nôs).
Bydd gofyn i ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer fynychu Canolfan Asesu: 24, 25 neu 26 Tachwedd 2026 (drwy Microsoft Teams)
Cyfweliadau: Rhwng 30/11/2026 a 09/12/2026 (trwy Microsoft Teams).
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth iawn i'w wneud!
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein prosesau recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl gael eu hanablu gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio - nid gan eu hamhariad neu eu gwahaniaeth.
Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
- Adran
- Cymru'n Gweithio / Gwasanaethau i Bobl Ifanc
- Rôl
- Cynghorydd Gyrfa / Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant
- Lleoliadau
- Caerdydd, Casnewydd, Pontypridd, Cwmbrân, Coed-duon, Wrecsam, Queensferry
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.