Anogydd Cyflogadwyedd, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 04/11/26)
Cyflog:£26,276–£28,256- Mae gennym swydd llawn amser yn ein tîm Cyswllt Gyrfa Cymru(CGC)- Mae'r swyddi hyn yn rhai digidol felly gall yr ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi'u lleoli unrhyw le yng Nghymru
Ydych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yn gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid drwy defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu’r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i’n cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru'n Gweithio.
Anogydd Cyflogadwyedd (Cymraeg yn hanfodol) – Cyswllt/CGC
Cyflog: £26,276–£28,256
Cyflog Cychwynnol £26,276
Mae gennym swydd llawn amser yn ein tîm Cyswllt Gyrfa Cymru (CGC). Oriau gwaith swydd llawn amser yw 37 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r gwasanaeth CGC ar agor o 9yb tan 5yh, felly bydd disgwyl i ddeiliad swydd weithio i gynnal yr oriau agor yma ar sail rota.
Mae'r swydd yn ddigidol, felly gall yr ymgeisydd llwyddiannus gael ei l/lleoli unrhyw le yng Nghymru gan y bydd y rol yn golygu gweithio o'r cartref yn bennaf. Bydd deiliad y swydd yn cael ei neilltuo i ganolfan a bydd angen mynychu’r swyddfa yn ôl gofynion y busnes.
Sgiliau iaith Gymraeg: Mae'r gallu i siarad a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddwch chi'n gallu deall a chyfathrebu'n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy'n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus.
Ymysg y buddiannau deniadol mae oriau hyblyg, 31 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid gan gynnwys pobl ifanc yn eu blwyddyn olaf o addysg sydd am symud ymlaen i waith neu hyfforddiant; rhieni; oedolion di-waith sydd yn chwilio am gymorth i gael gwaith ac oedolion sy’n awyddus i newid eu gyrfa.
Mae ein Anogyddion Cyflogadwyedd
· yn cefnogi ac ysbrydoli eu cleientiaid i sicrhau’r yrfa orau bosibl sydd ar gael iddynt;
· yn darparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;
· yn darparu cymorth cyflogadwyedd (cymorth gyda chreu CV, gweithgareddau chwilio am swyddi ayb) i’r rhai sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith neu newid swyddi;
· yn helpu cleientiaid i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol cynaliadwy (addysg, hyfforddiant, cyflogaeth).
Dylai Anogyddion Cyflogadwyedd fod wedi’u haddysgu i safon NVQ 3 neu gymhwyster cyfatebol, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad oes gennych Ddiploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfa eisoes, byddwn yn darparu’r hyfforddiant a’r cymorth sydd ei angen arnoch i ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn.
Gofynion ychwanegol
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Datgeliad Sylfaenol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ein hymrwymiad i gynhwysiant
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth iawn i'w wneud!
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein prosesau recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl gael eu hanablu gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio - nid gan eu hamhariad neu eu gwahaniaeth.
Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd: Swydd-Ddisgrifiadau/Anogydd Cyflogadwyedd
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn ar 04/11/2026 (hanner nôs).
Cyfweliadau / asesiadau i’u cynnal ar 16/11/2026 – 17/11/2026.
Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
- Adran
- Cymru'n Gweithio / Gwasanaethau i Bobl Ifanc
- Rôl
- Anogydd Cyflogadwyedd
- Lleoliadau
- Lleoliadau lluosog
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.