Swyddog Gweinyddol, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 21/10/26)
Sylfaen: Canolfan Gyrfaoedd Llanelli - Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener - Graddfa Gyflog: £25,957 - £26,131
Swydd Wag: Swyddog Gweinyddol, Gyrfa Cymru
Ydych chi'n chwilio am swydd sy’n rhoi cyfle i weithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sydd â ffocws ar gwsmeriaid i ymuno â'n tîm a darparu cefnogaeth weinyddol er mwyn ein galluogi ni i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfarwyddyd gyrfaoedd ac annog hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaeth Cymru’n Gweithio.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon fod â sgiliau Cymraeg lefel Ganolradd o leiaf.
Rôl Swydd: Swyddog Gweinyddol
Sylfaen: Canolfan Gyrfaoedd Llanelli
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener
Graddfa Gyflog: £25,957 - £26,131
Cyflog cychwynnol: £25,957 y flwyddyn.
Dyddiad Cau: Hanner nos ar y 21/10/26.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a gwasanaetha derbynfa effeithlon ac effeithiol i dîm Cymru’n Gweithio. Fel rhan o'r rhaglen hyfforddi ar gyfer y rôl, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â Phrentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 2, os nad yw'n meddu ar y cymhwyster hwn eisoes.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos y canlynol:
· Sgiliau Iaith Gymraeg h.y. y gallu i ddeall a chyfathrebu'n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy'n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau, ac esbonio syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml ac ysgrifennu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi'u strwythuro'n dda er mwyn rhannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau neu drefnu gweithgareddau.
· Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ddelio ag ymholiadau (ffôn, e-bost ac wyneb yn wyneb) gan aelodau o'r cyhoedd, staff mewnol a rhanddeiliaid allweddol.
· Ymrwymiad i ddangos gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
· Y gallu i ddelio ag ymholiadau nad ydynt yn arferol lle gallai fod angen trafod a pherswadio
· Sgiliau digidol y gellir eu dangos
· Y gallu i drefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith ei hun a gofynion amrywiol o ran terfynau amser
· Y gallu i ddefnyddio crebwyll a barn mewn dyletswyddau o ddydd i ddydd
· Y gallu i weithio fel rhan o dîm
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyna'r peth iawn i'w wneud!
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein proses recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl fod yn anabl gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio - nid gan eu hamhariad neu wahaniaeth.
Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dylid cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau erbyn hanner nos ar y 21/10/26. Bydd y broses ddethol ar ffurf prawf ymchwil/ysgrifenedig a chyfweliad. Bydd yr asesiadau hyn yn cael eu cynnal yn ddigidol drwy Teams; cynhelir y prawf ymchwil/ysgrifenedig ar 06/11/2026, a chynhelir y cyfweliadau ar 09/11/2026 ac ar fore’r 11/11/2026.
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd: Swyddog Gweinyddol
Buddion deniadol gan gynnwys gweithio hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Sylwch nad ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.
- Adran
- Cymru'n Gweithio
- Rôl
- Cynorthwyydd Gweinyddol
- Lleoliad
- Llanelli
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.