Cyfarwyddwr Trawsnewid ac Adnoddau (Dyddiad Cau 28/04/26)
Cyfarwyddwr Trawsnewid ac Adnoddau
Cyflog: £82,947 – £91,308
Lleoliad: I’w benderfynu ar ôl penodi
Ymunwch ag Uwch Dîm Rheoli Gyrfa Cymru a chwarae rôl allweddol yn creu dyfodol mwy disglair i gymunedau ledled Cymru.
Gyrfa Cymru yw'r gwasanaeth gyrfaoedd dwyieithog cenedlaethol ar gyfer pobl o bob oedran. Ei genhadaeth yw sicrhau bod pawb - beth bynnag fo'u cefndir neu eu huchelgais - yn gallu cael mynediad at gyngor a chefnogaeth gyrfaoedd diduedd o ansawdd uchel er mwyn gallu symud ymlaen yn hyderus.
Mae Gyrfa Cymru bellach yn recriwtio Cyfarwyddwr Trawsnewid ac Adnoddau, rôl allweddol wrth lunio dyfodol y sefydliad. Byddwch yn arwain ei swyddogaethau gweithredol a chorfforaethol, gan gynnwys cyllid, ystadau, adnoddau dynol a datblygu sefydliadol, digidol a TGCh, cyfathrebu, ac ansawdd a chynllunio.
Yn y rôl hon, byddwch yn hyrwyddo arloesedd, cryfhau llywodraethu, ac ymgorffori diwylliant o ymddiriedaeth, cynhwysiant a gwelliant parhaus ar draws y sefydliad.
Mae Gyrfa Cymru yn chwilio am arweinydd cydweithredol sydd â gweledigaeth a phrofiad ar draws sawl maes gwasanaethau corfforaethol, hanes cryf o gyflawni newid cymhleth, a'r gallu i adeiladu perthnasoedd effeithiol a dylanwadol.
Os ydych chi'n cael eich ysgogi gan greu effaith gadarnhaol i gymunedau yng Nghymru, yn angerddol am drawsnewid, ac yn ymrwymedig i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl wrth gael mynediad at gyfleoedd gwaith, cysylltwch â Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu info@goodsonthomas.com.
Mae Gyrfa Cymru’n ffynnu ar amrywiaeth a chynhwysiant. Cred y corff fod sefydliadau â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, ac yn hapusach yn gyffredinol. Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn drawsnewidiol, gan gyfrannu at gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus rhagorol ac at alluogi gwelliannau parhaus i bobl Cymru. Mae Gyrfa Cymru wedi ymrwymo i gael gweithlu sy'n cynrychioli’r dinasyddion maent yn eu gwasanaethu ym mhob gradd swydd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon a chroesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg. Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd a statws trawsryweddol, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chred (gan gynnwys dim cred), statws priodas neu bartneriaeth sifil, statws economaidd, neu gyfeiriadedd rhywiol. Nod Gyrfa Cymru yw hyrwyddo amgylchedd sy'n rhydd o bob math o wahaniaethu, gan drin pobl yn deg gydag urddas a pharch.
Gwnewch gais drwy Goodson Thomas: https://www.goodsonthomas.com/cy/opportunities
Dyddiad cau: Hanner dydd, 28 Ebrill 2026
Cyfweliadau: Mai/Mehefin 2026
- Adran
- Tîm Gweithredol
- Rôl
- Cyfarwyddydd Adnoddau a Thrawsnewid
- Lleoliadau
- Lleoliadau lluosog
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.