Cynorthwyydd Gweinyddol (Dyddiad Cau 26/02/26)
Swydd wag: Cynorthwyydd Gweinyddol, Gyrfa Cymru
Ydych chi'n chwilio am swydd lle rydych yn gweithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf i ymuno â'n tîm i ddarparu'r cymorth gweinyddol er mwyn ein galluogi i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaeth Cymru’n Gweithio.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon feddu ar sgiliau iaith Gymraeg lefel Ganolradd o leiaf.
Swydd: Cynorthwyydd Gweinyddol
Swyddfa: Castell-nedd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener
Graddfa Cyflog: £25,957-£26,131
Cyflog Cychwynnol: £25,957 y flwyddyn.
Dyddiad Cau: Hanner nôs 26/02/26.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a derbynfa effeithlon ac effeithiol i'n Tim Cymru’n Gweithio.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn meddu ar y canlynol:
Sgiliau Iaith Gymraeg h.y. y gallu i ddilyn sgyrsiau bob dydd a sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith a chymryd rhan yn hyderus mewn trafodaethau, cynnal sgyrsiau hirach ar bynciau cyfarwydd, disgrifio profiadau a chynlluniau, a darllen ac ysgrifennu negeseuon e-bost neu negeseuon clir a syml i ofyn am wybodaeth, rhannu diweddariadau, gwahodd eraill, neu drefnu gweithgareddau.
Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ddelio ag ymholiadau (dros y ffôn, dros yr e-bost ac wyneb yn wyneb) gan aelodau o'r cyhoedd, staff mewnol a rhanddeiliaid allweddol.
Ymrwymiad i ddangos gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
Y gallu i ymdrin ag ymholiadau anghyffredin lle y gall fod angen trafod a pherswadio
Sgiliau TGCh dangosadwy
Y gallu i drefnu a blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun a chyrraedd amrywiol derfynau amser
Y gallu i ddefnyddio cymhelliant a chrebwyll wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd
Y gallu i weithio fel rhan o dîm
Er mai Castell-nedd yw lleoliad y swydd bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio yn achlysurol mewn Canolfannau Gyrfa eraill e.e. Abertawe a Llanelli.
Fel rhan o’r cynllyn hyfforddiant ar gyfer y swyddi yma bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes, Lefel 2, os nad oes ganddynt y cymhwyster yn barod.
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd:
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.
Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nôs ar 26/02/26. Bydd y broses ddethol ar ffurf prawf ymchwil/ysgrifenedig a chyfweliad. Cynhelir y prawf ymchwil/ysgrifenedig yn ddigidol drwy Teams a chynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Gyrfa Castell-nedd, yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 16/03/2026.
Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddiannau deniadol, gan gynnwys amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser), cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.
- Adran
- Cymru'n Gweithio / Gwasanaethau i Bobl Ifanc
- Rôl
- Cynorthwy-ydd Gweinyddiaeth
- Lleoliadau
- Castell-nedd
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.
Eisoes yn gweithio i Careers Wales?
Beth am recriwtio gyda'n gilydd a chanfod eich cydweithiwr newydd.