Cynorthwyydd Gweinyddol (Dyddiad Cau 21/01/26)
Swydd wag: Cynorthwyydd Gweinyddol, Gyrfa Cymru
Ydych chi'n chwilio am swydd lle rydych yn gweithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf i ymuno â'n tîm i ddarparu'r cymorth gweinyddol er mwyn ein galluogi i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaeth Cymru’n Gweithio.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon feddu ar o leiaf sgiliau iaith Gymraeg lefel Sylfaen.
Swydd: Cynorthwyydd Gweinyddol
Swyddfa: Canolfan Gyrfa Caerdydd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener
Graddfa Cyflog: £25,957-£26,131
Cyflog Cychwynnol: £25,957 y flwyddyn.
Dyddiad Cau: Hanner nôs 21/01/26.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a derbynfa effeithlon ac effeithiol i'n Tim Cymru’n Gweithio. Fel rhan o’r cynllyn hyfforddiant ar gyfer y swyddi yma bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes, Lefel 2, os nad oes ganddynt y cymhwyster yn barod.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn meddu ar y canlynol:
Sgiliau Iaith Gymraeg h.y. y gallu i ddeall a chyfathrebu ar lefel sylfaenol am bynciau bob dydd, cymryd rhan mewn sgyrsiau syml, darllen ac ymateb i negeseuon sylfaenol, ac ysgrifennu nodiadau neu e-byst byr.
Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ddelio ag ymholiadau (dros y ffôn, dros yr e-bost ac wyneb yn wyneb) gan aelodau o'r cyhoedd, staff mewnol a rhanddeiliaid allweddol.
Ymrwymiad i ddangos gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
Y gallu i ymdrin ag ymholiadau anghyffredin lle y gall fod angen trafod a pherswadio
Sgiliau TGCh dangosadwy
Y gallu i drefnu a blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun a chyrraedd amrywiol derfynau amser
Y gallu i ddefnyddio cymhelliant a chrebwyll wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd
Y gallu i weithio fel rhan o dîm
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.
Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd:
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nôs ar 21/01/26. Bydd y broses ddethol ar ffurf prawf ymchwil/ysgrifenedig a chyfweliad. Bydd yr asesiadau hyn yn cael eu cynnal yn ddigidol ar Teams ar yr 2il a 3ydd o Chwefror 2026.
Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddiannau deniadol, gan gynnwys amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser), cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.
- Adran
- Cymru'n Gweithio / Gwasanaethau i Bobl Ifanc
- Rôl
- Cynorthwyydd Gweinyddol, Angen Sgiliau Llafar Cymraeg
- Lleoliadau
- Caerdydd
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.
Eisoes yn gweithio i Careers Wales?
Beth am recriwtio gyda'n gilydd a chanfod eich cydweithiwr newydd.