Peiriannydd Datblygu Gweithrediadau (Dyddiad Cau 10/07/25)
Ymunwch â'n Tîm Dynamig fel Peiriannydd Datblygu Gweithrediadau!
Ydych chi'n barod i fynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf? Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG), is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn chwilio am Beiriannydd Datblygu Gweithrediadau talentog i ymuno â'n tîm arloesol. Rydym yn darparu gwasanaethau arweiniad a hyfforddi gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bob oed yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru'n Gweithio.
Dyddiad Cau: Hanner nôs ar 10/07/2025
Yr Hyn a Gynigiwn:
• Cyflog Cystadleuol: £42,763 - £45,863; cyflog cychwynnol £42,763.
• Lleoliad y swydd: Bydd yn cael ei bennu ar ôl penodi (bydd yn un o'n canolfannau Gyrfaoedd sydd ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru) gyda threfniadau gweithio’n ystwyth.
• Gweithio Hyblyg: Mae trefniadau gweithio ystwyth a gweithio amser hyblyg ar waith.
• Oriau Gwaith: Swydd amser llawn gyda 37 awr yr wythnos.
• Buddion: Buddion deniadol gan gynnwys gweithio’n ystwyth, amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn budd-daliadau diffiniedig, a chynllun arian yn ôl sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Pam CCDG?
Yn CCDG, rydym yn ffynnu ar amrywiaeth a chynhwysiant. Credwn fod sefydliadau â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, ac yn gyffredinol yn hapusach. Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn drawsnewidiol, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol a galluogi gwelliannau parhaus i bobl Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gael gweithlu sy'n gynrychioliadol o'r dinasyddion rydym yn eu gwasanaethu ar bob gradd swydd.
Eich Rôl:
Fel Peiriannydd Datblygu Gweithrediadau, byddwch ar flaen y gad o ran cefnogi pentwr technoleg modern a chyffrous, gan yrru gwelliant parhaus gwefan Gyrfa Cymru. Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd datblygu cefnogol ac ystwyth, gan gydweithio â datblygwyr allanol a thimau technegol mewnol i weithredu'r bensaernïaeth darged. Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
• Gweithio i'r egwyddorion a nodir yn Fframwaith Azure Well Architectured.
• Cefnogi gwelliant parhaus pensaernïaeth, seilwaith a phibellau integreiddio'r wefan.
• Sefydlu arferion Dev/SecOps diogel gan ddefnyddio'r offer a'r dechnoleg ddiweddaraf.
• Awtomeiddio a symleiddio defnydd meddalwedd.
• Cefnogi rhyddhau cod i gynhyrchu.
• Optimeiddio adnoddau cost a monitro perfformiad, effeithlonrwydd, dibynadwyedd, diogelwch a monitro.
Eich Sgiliau a'ch Profiad:
I fod yn addas ar gyfer y swydd hon, byddwch yn raddedig mewn maes peirianneg systemau/gwyddor gyfrifiadurol neu'n meddu ar brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol. Dylech hefyd fod â:
• Profiad mewn rôl Datblygu Gweithrediadau neu Beirianneg Cwmwl, yn benodol Microsoft Azure.
• Profiad ymarferol o ddatblygu a rheoli piblinellau CI/CD ar gyfer defnyddio meddalwedd yn awtomatig i amgylcheddau Cwmwl, yn benodol trwy Microsoft Azure DevOps.
• Profiad amlwg o ddatblygu a chynnal seilwaith micro-wasanaethau, cynwysyddion, ac offeryniaeth; yn benodol AKS Azure Kubernetes.
• Profiad ymarferol o seilwaith fel cod (IaC), gan ddefnyddio Helm, Terraform, Ansible neu debyg.
• Profiad o feddalwedd rheoli fersiynau, yn benodol GIT.
• Mae cefndir datblygu yn ddymunol.
• Profiad amlwg o weithio o fewn SDLC ystwyth.
• Y gallu i amldasgio, blaenoriaethu, a chadw at derfynau amser tynn.
• Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â chydweithwyr mewnol a chyflenwyr meddalwedd allanol.
• Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Ymunwch â Ni:
Mae'r disgrifiad swydd llawn a'r ffurflen gais ar gael yn Swyddi Gwag - Gyrfa Cymru (llyw.cymru)
Peiriannydd Datblygu a Gweithrediadau
Dylid cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau erbyn 10/07/25.
Cynhelir cyfweliadau / asesiadau ar 23/07/25.
Ewch i Wefan Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg. Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd a statws trawsryweddol, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chred (gan gynnwys dim cred), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd, na chyfeiriadedd rhywiol. Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy'n rhydd o bob math o wahaniaethu, gan drin pobl yn deg gydag urddas a pharch
- Adran
- TGCh
- Rôl
- Peiriannydd Datblygu Gweithrediadau (DevOps)
- Lleoliadau
- Lleoliadau lluosog
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.
Eisoes yn gweithio i Careers Wales?
Beth am recriwtio gyda'n gilydd a chanfod eich cydweithiwr newydd.