Cynghorydd Ymgysylltu â Busnes (Dyddiad Cau 04/06/25)
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen newydd Cymru’n Gweithio.
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.
Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru
Rydym yn recriwtio Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant / Cynghorydd Cyswllt Busnes
Ydych chi’n mwynhau gweithio mewn partneriaeth â busnesau a chyflogwyr?
Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu rhagorol?
Allwch chi egluro sut gall busnesau a chyflogwyr ymgysylltu ag addysg?
Ydych chi am wneud cyfraniad allweddol at godi ymwybyddiaeth dysgwyr o natur newidiol y byd gwaith, y sgiliau sydd eu hangen a’r cyfleoedd sydd ar gael?
Gallai’r rôl hon fod yn ddelfrydol i chi!
Cyflog: £29,873 y flwyddyn (Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant); £31,096 - £35,981 (Cynghorydd Cyswllt Busnes Cymwys)
Lleoliad: De-ddwyrain Cymru
Oriau gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Ceir buddiannau deniadol, gan gynnwys gweithio ystwyth, amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol, a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.
GWYBODAETH AM Y SWYDD:
Fel Cynghorydd Cyswllt Busnes/Dan Hyfforddiant, byddwch yn helpu i lywio, ysbrydoli a chymell pobl ifanc gyda’u cyfleoedd gyrfa.
Bydd eich sgiliau fel Cynghorydd Cyswllt Busnes/Dan Hyfforddiant yn helpu i:
- Newid agweddau disgyblion at addysg
- Cymell pobl ifanc i astudio yn galetach a sicrhau graddau gwell o bosibl
- Dylanwadu ar gynlluniau gyrfa disgyblion a’u dewisiadau pwnc
- Dod â rhannau o’r cwricwlwm yn fyw
- Helpu pobl ifanc i greu cysylltiadau rhwng eu gwersi a’r byd gwaith
- Codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gyrfa amrywiol sydd ar gael a sut i fanteisio arnynt
- Cyflwyno pobl ifanc i fodelau rôl a fydd yn eu hysbrydoli
- Herio syniadau am rywedd, hil ac anabledd sy’n cyfyngu ar ddewisiadau gyrfa.
Rydym yn chwilio am unigolyn a fydd yn nodi, sefydlu a chynnal cysylltiadau cadarnhaol gyda rhwydwaith o gyflogwyr a’u cyrff proffesiynol i gefnogi darpariaeth gwasanaethau ymgysylltu â chyflogwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol i gadw mewn cysylltiad â chyflogwyr a chydweithwyr gan sicrhau bod gwasanaethau ymgysylltu â chyflogwyr yn cael eu cydlynu, eu cofnodi a’u rheoli yn briodol.
Dylai ymgeiswyr ar gyfer Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant fod wedi'u haddysgu i lefel gradd neu safon gyfatebol megis cymwysterau proffesiynol neu feddu ar brofiad amlwg o gysylltu a delio â chyflogwyr. Os cewch eich penodi fel hyfforddai byddwch yn cael eich cefnogi i gwblhau'r Diploma Lefel 6 mewn Cyswllt Busnes.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd Cynghorydd Cyswllt Busnes Cymwys feddu ar y Diploma Lefel 6 mewn Cyswllt Busnes.
PROSES YMGEISIO:
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen y fanyleb swydd lawn:
Cynghorydd Addysg a Busnes Swydd Ddisgrifiadau
Mae’r swydd-ddisgrifiad llawn a ffurflen gais ar gael yn: Vacancies - Careers Wales (gov.wales)
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 04/06/25 (hanner nôs). Cynhelir prawf asesu ar 17/06/25 a chyfweliadau ar 19/06/25.
Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Er gwybodaeth, nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV .
- Adran
- Gwasanaethau i Randdeiliaid
- Rôl
- Cynghorydd Cyswllt Busnes / Cynghorydd Cyswllt Busnes Dan Hyfforddiant
- Lleoliadau
- Coed-duon, Glyn Ebwy, Merthyr Tudful, Y Fenni, Cas-gwent, Casnewydd, Cwmbrân, Caerdydd
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.
Cynghorydd Ymgysylltu â Busnes (Dyddiad Cau 04/06/25)
Llwytho ffurflen gais
Eisoes yn gweithio i Careers Wales?
Beth am recriwtio gyda'n gilydd a chanfod eich cydweithiwr newydd.