Cynghorydd Entrepreneuriaeth (Dyddiad Cau 07/04/25)
Ydych chi'n chwilio am swydd lle rydych yn gweithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf i ymuno â'n tîm sy’n gweithio ar ein hymgyrch Syniadau Mawr Cymru.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen newydd Cymru’n Gweithio.
Swydd: Cynghorydd Entrepreneuriaeth
Swyddfa: Gogledd Orllewin Cymru
Oriau Gwaith: 22.2 awr yr wythnos / Rhan-amser
Graddfa Cyflog: £17,923.80 - £21,588.60 (pro rata i £29,873 - £35,981)
Cyflog Cychwynnol: £17,923.80 y flwyddyn.
Math o gytundeb: Dros dro tan 31ain o Fawrth 2025
Dyddiad Cau: Hanner nôs 07/04/25.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddod â phobl ifanc a pherchnogion busnes ynghyd i ysbrydoli ac ysgogi cenhedlaeth entrepreneuriaid nesaf Cymru yn ogystal a chefnogi nodau cyffredinol ymgyrch Syniadau Mawr Cymru i wreiddio diwylliant o entrepreneuriaeth mewn ysgolion a lleoliadau trwy hyrwyddo entrepreneuriaeth fel cyfle gyrfa, gan godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o berchnogaeth busnes..
Rhaid i ymgeiswyr unai bod wedi graddio neu wedi ennill cymhwyster cyfatebol megis cymwysterau proffesiynol neu feddu ar brofiad amlwg o gysylltu ac ymdrin â phartneriaid. Mae’r gallu i ddarparu’r gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.
Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd:
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nôs ar 07/04/25. Cynhelir cyfweliadau unai ar 29/04/25 neu 30/04/25.
Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddiannau deniadol, gan gynnwys amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser), cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.
- Adran
- Gwasanaethau i Randdeiliaid
- Rôl
- Entrepreneurship Adviser
- Lleoliadau
- Bangor, Porthmadog, Caergybi, Aberystwyth
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.
Cynghorydd Entrepreneuriaeth (Dyddiad Cau 07/04/25)
Llwytho ffurflen gais
Eisoes yn gweithio i Careers Wales?
Beth am recriwtio gyda'n gilydd a chanfod eich cydweithiwr newydd.