Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa Dan Hyfforddiant (Dyddiad Cau 24/11/24)
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen Cymru’n Gweithio.
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.
Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru.
Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa Dan Hyfforddiant - cyflog cystadleuol - telerau ac amodau rhagorol - swyddi gwag yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.
- Allwch chi ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?
- Ydych chi eisiau cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac economi Cymru yn y dyfodol?
- Ydych chi eisiau gweithio i sefydliad cenedlaethol proffesiynol, modern ac arloesol a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl?
Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth cyfarwyddyd i bobl o bob oed sy'n cefnogi pobl ifanc mewn addysg a chwsmeriaid yn y farchnad lafur. Ni yw'r unig sefydliad cenedlaethol yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd diduedd am yrfaoedd. Mae gan ein cynghorwyr angerdd tuag at helpu pobl i gyflawni eu potensial.
Rydym yn recriwtio Cynghorwyr Gyrfa cymwysedig a than hyfforddiant sy'n gallu gweithio gydag ystod eang o bobl. Cyflog Cynghorydd Gyrfa yw £30,708 - £35,533, cyflog i gychwyn ar £30,708 a chyflog Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant yw £29,500. Mae gennym swyddi gwag yn y meysydd canlynol: -
Gweithio o fewn Addysg:
Mae ein Cynghorwyr Gyrfa sy'n gweithio ym myd addysg yn allweddol o ran sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu paratoi ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu bywydau a'u bod yn ymwybodol o'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn marchnad lafur sy'n newid yn barhaus. Maent yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, y rhai sy'n cael eu haddysgu heblaw mewn ysgolion a cholegau AB.
Mae cynghorwyr gyrfa yn defnyddio ystod o offer a sgiliau i gefnogi'r gwaith y maent yn ei wneud gyda phobl ifanc. Mae hyn yn amrywio o gefnogaeth un i un, cyflwyno sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyflwyno gwybodaeth gan ddefnyddio ystod o dechnoleg ddigidol.
Os hoffech gael yr her o weithio gyda phobl ifanc o bob gallu a chefndir, os ydych yn gallu cymell ac ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu nodau, os gallwch greu perthynas effeithiol gydag athrawon, rhieni a darparwyr dysgu eraill, yna hoffem glywed gennych.
Mae gennym swyddi gwag ar gyfer Cynghoryddion Gyrfa addysg a / neu Gynghoryddion Gyrfa dan Hyfforddiant yn Sir Benfro ac yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r gallu i siarad a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swyddi hyn.
Gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion yn y Farchnad Lafur:
Fel rhan o'r rhaglen Cymru'n Gweithio, mae ein Cynghorwyr Gyrfa yn gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion i gynnig cymorth asesu a chyfarwyddyd i'w helpu i ymuno neu ailymuno â'r farchnad lafur. Maent yn gweithio gydag ystod o grwpiau cwsmeriaid, gan gynnwys y rhai sy'n ddi-waith yn y tymor hir a'r tymor byr, y rhai sy'n economaidd anweithgar, pobl â rhwystrau iechyd ac anabledd a'r rhai sy'n ceisio newid eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys darparwyr hyfforddiant, canolfannau gwaith, carchardai, timau troseddau ieuenctid, cyflogwyr a sefydliadau proffesiynol eraill i gefnogi eu cwsmeriaid i gael addysg, hyfforddiant a gwaith cynaliadwy.
Mae'r cynghorwyr yn defnyddio ystod o offer a sgiliau i gefnogi'r gwaith a wnânt ac mae hyn yn amrywio o gefnogaeth un i un, cyflwyno sesiynau rhyngweithiol i grwpiau yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd i gyflwyno gwybodaeth gan ddefnyddio ystod o dechnolegau digidol.
Os hoffech gael yr her o weithio gyda phobl ifanc ac oedolion o bob gallu a chefndir yn y farchnad lafur, os ydych yn gallu eu cymell a'u hysbrydoli i gyflawni eu nodau, ac yn gallu sefydlu perthynas effeithiol gydag amrywiaeth o sefydliadau partner, yna hoffem glywed gennych.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â chefndir mewn gweithio gyda:
- addysg a hyfforddiant;
- sectorau iechyd, gofal cymdeithasol neu gymorth anabledd;
- oedolion sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur ac;
- oedolion neu bobl ifanc o grwpiau ethnig lleiafrifol amrywiol, ceiswyr lloches neu ffoaduriaid.
Mae gennym swydd llawn amser wedi’i lleoli yn Abertawe ar gyfer Cynghorwyr Gyrfa a / neu Gynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion yn y farchnad . Mae’r gallu i siarad a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, felly dylai ymgeiswyr feddu ar y gallu i gynnal sgwrs yn Gymraeg gyda chwsmeriaid a phartneriaid. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr Cymraeg sydd wedi cyrraedd safon sgyrsiol o Gymraeg llafar ond sydd efallai angen rhywfaint o gymorth I ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
Mae'n ofynnol i chi deithio yng Nghymru ac yn achlysurol yn y DU er mwyn cyflawni eich dyletswyddau a/neu fynychu digwyddiadau dysgu a datblygu. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod gennych drefniadau trafnidiaeth digonol i'ch galluogi i gyflawni eich dyletswyddau a/neu fynychu digwyddiadau dysgu a datblygu.
Rhaid i Gynghorwyr Gyrfa cymwysedig feddu ar gymhwyster Diploma mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa Lefel 6 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCC neu cymhwyser cyfatebol) a bod yn gymwys i ymuno â Chofrestr Ymarferwyr y Sefydliad Datblygu Gyrfa.
Os nad oes gennych y cymhwyster FfCC yn barod, byddwn yn rhoi'r hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i gyflawni'r cymhwyster gwerthfawr hwn.
Os nod ydych yn meddu ar y cymhwyster FfCC, fe wnawn ddarparu’r hyfforddiant a’r gefnogaeth angenrheidiol i’ch cynorthwyo i gael y cymhwyster gwerthfawr yma.
Dylai Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant fod wedi'u haddysgu i lefel gradd neu safon gyfatebol a byddant yn cwblhau Diploma Lefel 6 mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa. Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol ar lefel gradd, a fydd yn cael ei gwblhau yn y gweithle, ond bydd angen dysgu'n annibynnol yn amser y dysgwr ei hun.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael Datgeliad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen y fanyleb swydd lawn:
Manyleb Swydd Anogydd Cyflogadwyedd
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 24/11/24. Bydd y broses ddethol ar ffurf asesiad mewn canolfan asesu a chyfweliad. Rhagwelir y byddwn yn cynnal y prosesau asesu yma yn ddigidol ar Teams oyn ystod yr wythnosau sy’n cychwyn 09/12/2024 a 16/12/2024..
Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
- Adran
- Cymru'n Gweithio / Gwasanaethau i Bobl Ifanc
- Rôl
- Cynghorydd Gyrfa / Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant
- Lleoliadau
- Rhydaman, Caerfyrddin, Hwlffordd, Llanelli, Abertawe
Pam gweithio i ni?
Mae cymaint o resymau dros weithio i ni! Rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn gweithio’n agos gyda’n hundeb llafur cydnabyddedig i sicrhau ein bod yn cynnig telerau ac amodau atyniadol.
Porwch isod am ragor o wybodaeth am y manteision rydym yn eu cynnig.
Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa Dan Hyfforddiant (Dyddiad Cau 24/11/24)
Llwytho ffurflen gais
Eisoes yn gweithio i Careers Wales?
Beth am recriwtio gyda'n gilydd a chanfod eich cydweithiwr newydd.